Hoffwn i ddiolch i chi am ofyn fy marn ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog. Rwy' wedi darllen ei ymateb a wedi'i hystyried yn ofalus iawn.

 

Rwy'n croesawu'r weithrediad y Mesur ac yn credu y bydd y Safonau newydd yn helpu datblygu darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg yn y sector cyhoeddus ac yn enwedig mewn darparu gwasanaethau dwyieithog yn y meysydd trydan, nwy, dŵr, telathrebiaeth, post a chludiant cyhoeddus.

 

Rwy'n croesawu'r eglurhad y Gweinidog ond rwy'n dal i gredu bod angen arnom y gallu i osod safonau ar gwmniau preifat eraill. Yn fy marn i, dylai fod dyletswydd ar fanciau yn enwedig, ond hefyd ar rai cwmnïau preifat eraill, i gynnig gwasanaeth dwyieithog. 

 

Fel rhywun sydd wedi dysgu'r iaith, rwy'n credu ei fod e'n bwysig iawn cynnig pob math o wasanaeth yn ddwyieithog er mwyn perswadio a chefnogi pawb sydd eisiau dysgu'r iaith neu ddefnyddio eu cymraeg. 

 

Yn dilyn y canlyniadau'r Cyfrifiad ynglŷn â'r iaith Gymraeg cyn y Nadolig, mae'n fwy fwy pwysig sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gymaint o gyfleoedd â phosibl i ddefnyddio'r iaith. Nid fydd pobl yn defnyddio'r iaith yn aml neu ddod yn rugl heb allu defnyddio hi yn eu bywydau dyddiol. Rwy'n credu hefyd bod angen arnom newid sut yr ydym yn addysgu'r Gymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion ond nid yw hyn yn rhan o fy neiseb.

 

Unwaith eto, diolch am roi'r cyfle hwn i mi.

 

Yr eiddoch yn gywir,

 

Gethin Sugar